databas cerddi guto'r glyn

Y corn hela

An image of a hunting horn on a tomb at Valle Crucis Abbey.
A hunter blowing his hunting horn
Click for a larger image

Dengys delweddau o’r corn mewn llawysgrifau fod ei hyd, ei siâp a’i ddiamedr yn amrywio ynghyd â’i wneuthuriad. Rhoddid cyrn hela yn anrhegion drudfawr gan fonheddwyr Lloegr ac roedd rhai wedi eu haddurno ag aur ac arian. Fodd bynnag, corn buwch wedi ei gwyro oedd corn yr heliwr cyffredin gan amlaf. Un felly, o bosibl, oedd y corn y gofynnodd Guto’r Glyn amdano i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun.[1] Dywed y bardd ei fod yn debyg i lun dôl ych ‘gwrthrych siâp dolen ych’ (cerdd 99.28), a disgrifir ei siâp fel hyn:

Corn mawr ymysg y cyrn mân, 
Cafn crwm fal cefn y cryman, 
Coedwr a’i waedd yn cadw’r ŵyn, 
corn mawr ymysg y cyrn mân,
cafn crwm fel cefn y cryman,
coedwr a’i waedd yn gwarchod yr ŵyn,

(cerdd 99.31-3)


Â'r bardd rhagddo i ddelweddu’r corn yn gloch ceirw, yn hanner cylch cerwyn (‘hanner cylch casgen gwrw’), ac yn fynci (‘coler’) (cerdd 99, llinellau 34-5). Bwriadai Siôn wisgo’r corn ar rwymyn a ymestynnai ar draws y corff o’r ysgwydd i’r clun, fel rhyw fath o wregys:

Yn gam, yn wynnog o’i ôl, 
Yn geunant yn ei ganol, 
Ar glun Siôn Eutun yn iau, 
O’r glun ar gil ei enau. 
yn gam, yn wyntog o’i ôl,
yn geunant yn ei ganol,
yn iau ar glun Siôn Eutun,
o’r glun ar gwr ei enau.

(cerdd 99.47-50)


Ond canolbwyntir yn bennaf ar y sŵn a ddaw o’r corn:

Bwmbart i ŵr a’i bumbys, 
Brig llef hyd ar barc y llys, 
Bwa genau’n bugunad, 
Bôn trwmp a’i ben tua’r iad, 
Gwiber dolef ac ubain 
 genau mawr ac un main. 
O bydd cynydd a’i cano 
Organ fawr i gŵn yw fo, 
bwmbart i ŵr a’i bum bys,
uchafbwynt llef ar draws parc y llys,
bwa genau’n rhuo,
rhan ôl trwmped a’i ben yn wynebu tua’r talcen,
gwiber bloeddio ac ochneidio
a chanddi enau mawr ac un main.
Os bydd cynydd yn ei seinio
organ fawr i gŵn yw ef,

(cerdd 99.39-46)


Defnyddid corn hela i ganu cyfuniadau o nodau hir, nodau byr a seibiannau gyda’r un traw i bob nodyn. Prif rôl y corn mewn helfa oedd cyfathrebu (gw. Hela: Offer hela).

Ceir ychydig o luniau canoloesol o gyrn hela o Gymru, megis cyfres o deils ceramig, gynt yn Abaty Nedd, sy’n darlunio golygfa hela, c. 1340.

Bibliography

[1]: Gw. ymhellach S. Harper, ‘Musical Imagery in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013), ac am drafodaeth ehangach, gw. J. Cummins, The Art of Medieval Hunting: The Hound and the Hawk (London, 1988), 160-71.
<<<Offerynnau      >>>Cerddoriaeth seciwlar
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration