databas cerddi guto'r glyn

Cerddoriaeth seciwlar


Mae diddordeb uchelwyr Cymru mewn cerddoriaeth seciwlar yn cael ei glodfori yn aml yn y farddoniaeth gan fod canu a thiwnio telyn yn un o’r pedair camp ar hugain i’w meistroli. Canmolodd Guto’r Glyn rai o’i noddwyr am eu gallu cerddorol, megis Syr Rhisiart Herbert am ei ddawn i chwarae offerynnau llinynnol (gw. Offerynnau) ac mae’r ffaith iddo nodi bod Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern yn bencerdd ar ddwy gerdd, sef cerdd dafod a cherdd dant (cerdd 106.42), yn awgrymu bod cerddoriaeth yr un mor bwysig i’r uchelwyr â barddoniaeth:

Ac a wna maeth i gan mil: 
Y glod i’w dafod a’i dŷ 
A’i delyn, hwn a’i dyly!  
ac yn rhoi maeth i gan mil:
boed clod i’w dafod a’i dŷ
a’i delyn, mae hwn yn teilyngu hynny!

(cerdd 106.44-46)


Cyfeirir hefyd at dermau cerddorol penodol wrth ganmol noddwyr, sy’n awgrymu bod yr uchelwyr yn hyddysg yn y dechneg ganoloesol o ganu cerdd dant neu’n gwybod sut i gael sain gerddorol o wahanol offerynnau. Medd Guto’r Glyn am Hywel ab Owain Lanybryn-mair:

Ni thalai grwth a thelyn, 
Adain deg, wedi un dyn, 
Pibau organ pob eurgerdd, 
Person pedair colon cerdd. 
Nid oedd crwth na thelyn yn werth dim,
amddiffynnwr teg, ar ôl marw un dyn,
pibau organ pob cerdd wych,
meistr ar bedair colofn cerdd.

(cerdd 40.29-32)


Musicians on the Cotehele Cupboard
Musicians on the Cotehele Cupboard
Click for a larger image
Mae’r cyfeiriad at feistrolaeth ar y pedair colofn cerdd yn ganmoliaeth uchel iawn gan mai athrawon cerddoriaeth o’r radd flaenaf oedd â’r gallu i feistroli’r pedair colofn yn ôl Statud Gruffudd ap Cynan. Ymddengys fod gan y sawl a ganai’r colofn y brif ran, boed ar y delyn neu ar y crwth, a cherddorion profiadol yn unig fyddai â’r gallu technegol i wneud hynny.[1]

Rhestrir y grefft o diwnio telyn hefyd ymysg y pedair camp ar hugain ac enw un o’r tannau oedd y cyweirdant gan y defnyddid ef i gyweirio neu i diwnio’r tannau eraill.[2] Ni fyddai telynor yn mentro ymhell heb ei gyweirgorn ychwaith, sef gwrthrych a ddefnyddid i diwnio. Darlunnir hwn ar banel cerfiedig o dderw ar gwpwrdd o’r unfed ganrif ar bymtheg.[3] Mae Guto yn delweddu Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd fel cyweirgorn yn ei farwnad iddo (cerdd 36.9-10) ac mae Morgan ap Rhosier o Wynllŵg yn cael ei foli am ei sgiliau tiwnio tra y canmolir ef hefyd am ei ddysg a’i wybodaeth:

Mae pwys hwn ym mhob synnwyr 
A phob dilechdyd, Raff ŵyr, 
Cyfraith a phedeiriaith deg, 
Awgrym, mydr a gramadeg, 
Cerddor gyda’r cywirddant, 
Doeth yw ’ngherdd dafod a thant 
Mae awdurdod y gŵr hwn ym mhob math o ddoethineb
a phob cangen ar ddilechtid, disgynnydd Raff,
cyfraith a phedair iaith deg,
rhifyddeg, mydryddiaeth a gramadeg,
yn gerddor gyda’r cyweirdant,
doeth yw mewn cerdd dafod a thant,

(cerdd 18.43-48)


Cerdd dant
Mae’r cysylltiad rhwng cerdd dafod, sef y farddoniaeth, a cherdd dant, sef cerddoriaeth y delyn neu’r crwth yn bodoli ers yr Oesoedd Canol cynnar. Erbyn cyfnod Guto, ymddengys fod peth safoni o ran rheolau wedi dod i rym ac i’r ddwy grefft ennyn cryn statws o ganlyniad. Cyfeirir at gerdd dant yng Ngramadegau’r Penceirddiaid (Peniarth 20, c.1330). Mewn cyfres o drioedd, cyfeirir yno at wahanol fathau o ‘brif gerdd’ sef cerdd dant, cerdd fegin a cherdd dafod. Rhestrir ymhellach yr offerynnau a oedd ynghlwm wrth y mathau hyn o ganu, sef rhai â thannau (y crwth a’r delyn), y timpan a’r offerynnau chwyth, sef yr organ, pibau a’r god (sef pibau cod neu ‘bagpipes’).[4] Yn olaf, rhestrir y tri a oedd ynghlwm y grefft o gerdd dafod sef prydu, datganu a chanu’r delyn.[5] Profa hyn fod barddoni, canu’r delyn a datgan barddoniaeth (sef rôl y datgeiniad) yn cael eu hystyried yr un mor bwysig â’i gilydd.

Roedd swyddogaeth y cerddor, boed yn delynor neu’n grythor, felly, yr un mor barchus â swyddogaeth y bardd ac roedd y berthynas rhwng y ddwy grefft yn un agos iawn. Meistrolodd rhai y ddwy grefft, megis Llywelyn ap Gutun, un o gyfoedion Guto a oedd yn delynor ac yn fardd, ond ni cheir prawf fod Guto’r Glyn yn gallu canu’r delyn neu’r crwth. Mae’n bosibl, felly, ei fod ef yn teithio gyda chyfeilydd neu bod datgeiniad yn perfformio ei farddoniaeth ar ei ran. Enwir nifer o gerddorion eraill o gyfnod Guto mewn rhestr a briodolir i Gutun Owain.[6] Mae Guto hefyd yn cyfeirio at gerddor o’r enw Brido a ystyrid yn delynor o fri yn y cyfnod hwn, ond ni wyddom mwy na hynny amdano (cerdd 113.58).

Ceir tystiolaeth fod Guto’r Glyn wedi cydweithio gydag un telynor, sef gŵr o’r enw Walter Harper. Digwydd enw’r bardd a’r telynor mewn cyfrifon yn Amwythig yn 1476-7 ac yn 1477-8, lle y disgrifir hwy fel minstralles principis ‘cerddorion y tywysog’. Y tywysog dan sylw oedd Edward V, mab Edward IV,a oedd ond yn blentyn ifanc yn cyfnod hwn a’i lys wedi ei leoli yn Llwydlo, ychydig filltiroedd o’r Amwythig.[7] Yn ôl Sally Harper, yr hyn sy’n nodedig am y cyfeiriadau hyn yw fod y ddau gerddor wedi eu henwi’n bersonol sy’n awgrymu eu bod yn adnabyddus iawn erbyn y 1470au fel bardd a cherddor.

Ychydig a wyddom am sut yn union y cenid y delyn yn gyfeiliant i’r farddoniaeth gan fod cerdd dant y cyfnod hwn yn gwbl wahanol i’r grefft sydd ohoni heddiw. Y gerddoriaeth gynharaf ar glawr ar gyfer y delyn yw’r ceinciau yn llawysgrif Robert ap Huw, llawysgrif a ddyddir i’r ail ganrif ar bymtheg. Ond fel yr awgryma Harper, mae’n debygol i Robert ap Huw eu copïo o destunau o ail hanner y bymthegfed ganrif.[8] Aed ati i arbrofi â llawysgrif Robert ap Huw gan gerddorion cyfoes a gellir clywed rhai o’r ceinciau ar wefan DapG.net. Mae’n bosibl hefyd mai i guriad rhythmig y pastwn y cenid rhai cerddi, gw. Offerynnau.

Bibliography

[1]: S. Harper, 'Musical imagery in the poetry of Guto’r Glyn (fl.c.1435-90)', yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 00-00.
[2]: Ymhellach gw. erthygl Sally Harper yn DapG.net, ‘Dafydd ap Gwilym, Bardd a Cherddor’ ac S. Harper, Music in Welsh Culture before 1650: a study of the principle source (Aldershot, 2007), 130.
[3]: R. Bebb, Welsh Furniture, 1250-1950: A Cultural History of Craftsmanship and Design (Carmarthenshire, 2007), 161-8.
[4]: G.J. Williams & E.J. Jones (goln), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), 57.
[5]: S. Harper, Music in Welsh Culture before 1650: a study of the principle source (Aldershot, 2007), 75-106.
[6]: D. Huws, ‘Rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd’, Dwned, 10 (2004), 79-88.
[7]: S. Harper, 'Musical imagery in the poetry of Guto’r Glyn (fl.c.1435-90)', yn B.J. Lewis, A. Parry Owen & D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 00-00.
[8]: S. Harper Harper, 'Musical imagery in the poetry of Guto’r Glyn (fl.c.1435-90)', yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 00-00 a D. Huws, ‘Rhestr Gutun Owain o wŷr wrth gerdd’, Dwned, 10 (2004), 79-88.
<<<Y corn hela      >>>Cerddoriaeth eglwysig
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration