databas cerddi guto'r glyn

Coleri


Yn y bymthegfed ganrif arfer cyffredin oedd gwisgo coleri aur neu arian wedi eu llunio o ddolenni niferus o wahanol siapiau. Yn ogystal â bod yn symbolau o statws roedd y coleri hyn yn arwyddo teyrngarwch i deulu neu i achos gwleidyddol. Un o’r hynaf a’r mwyaf adnabyddus oedd coler o esau, gyda linciau ar ffurf llythyren ‘S’. Ymddangosodd y rhain yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a’u rhoi gan John o Gaunt, dug Lancaster, i’w ddilynwyr.[1] Mabwysiadwyd yr un math o goler gan ei fab, a ddaeth yn Frenin Harri IV, a byddai’n parhau i fod yn un o arwyddion plaid Lancaster yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Coler o linciau yn dangos yr haul a’r rhosyn gwyn bob yn ail, gyda llew gwyn fel crogdlws, a wisgid gan blaid Iorc yn amser Edward IV, neu, yn amser Rhisiart III, roses-en-soleil gwynion gyda baedd gwyn fel crogdlws (defnyddid arwyddion tebyg ar fathodynnau).[2]

Darlunnir coleri yn aml ar gorffddelwau ac mewn lluniau. Er enghraifft, mae corffddelwau Syr Henry Wogan a’i wraig Margaret yn eu dangos yn gwisgo coleri Iorcaidd fel arwyddion o’u teyrngarwch i Edward IV, a choleri tebyg a wisgir gan Syr John Dwnn a’i wraig Elizabeth ar allorlun paentiedig.[3]

I’r beirdd, roedd coler neu aerwy aur yn un o’r pethau a arwyddai statws marchog, ynghyd ag ysbardunau, cleddyf neu wregys o aur, tra oedd coler neu ysbardunau arian yn arwyddo statws ysgwïer. Roedd cyfeirio at gyfnewid offer arian am rai aur, felly, yn ddull cyfleus o ddweud bod rhywun wedi’i urddo’n farchog, neu’n haeddu’r fraint honno. Ceir enghreifftiau mewn dwy gerdd o waith Dafydd Epynt, sef Ysgwïer, gwisg aerwy gwyn, / Arian filwr â'n felyn a hefyd Dau goler arian sidan y sydd, / Duw a ro newid o aur newydd.[4] Mynegir dymuniad tebyg mewn un o gerddi Guto’r Glyn a ganwyd i Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd:

Ysgwïer dan goler gwiw, 
Ucha’ sydd i’ch oes heddiw, 
Dy fonedd di a fynnai 
Dy roi’n aur gyda’th dri nai. 
Nid anos yt, myn Dwynwen, 
Dwyn aur nog ysbardun wen. 
ysgwïer yn gwisgo coler deilwng,
y mwyaf dyrchafedig sydd yn eich oes chi heddiw,
byddai dy dras di’n mynnu
i ti gael dy wisgo mewn aur gyda’th dri nai.
Ni fyddai’n anos i ti, yn enw Dwynwen,
wisgo aur nag ysbardun arian.

(cerdd 35.7-12)


Ac felly hefyd yn ei gerdd o fawl i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai, os yw’r gair aur yn gysylltiedig â’r coler:

Ys da gweddai i’w nai ’n ôl 
Aur ar wyrdd, ŵyr yr urddol; 
Nid un galon dan goler 
Un dyn â Siôn dan y sêr. 
byddai’n gweddu’n dda i’w nai ar ei ôl gael aur
ar ei ddillad gwyrdd, ŵyr yr un a urddwyd;
nid oes yr un dyn o’r un dewrder
dan goler â Siôn o dan y sêr.

(cerdd 75.41-4)


Ond mewn cerdd sy’n canmol Maredudd ap Hywel o Groesoswallt, cwyna Guto am yr annhegwch a wêl yn arfer Edward IV o urddo’n farchogion filwyr o gefndir distadl yn hytrach nag o dras fonheddig. Cyfeirir at roi ysbardunau aur i’r dynion hyn:

Y salwa’ o iselwaed 
A roir draw aur ar ei draed. 
Rhoddir aur ar draed
y gwaelaf o ddynion isel eu tras.

(cerdd 95.5-6)


Wedyn, fel y disgwylid, â Guto ymlaen i’w gwneud yn glir fod Maredudd ei hun ymhlith y sawl sy’n haeddu coler aur marchog (a elwir yn rhudd ‘red’, yma):

Pam, a gwyched Maredudd, 
Na roir ar hwn aerwy rhudd? 
Pam, a Maredudd mor ardderchog,
na roddir ar hwn goler goch?

(cerdd 95.15-16)


Mewn cerddi eraill crybwyllir coleri noddwyr a oedd eisoes wedi’u hurddo’n farchogion. Cyfeiria Guto at Syr Rhisiart Gethin o Fuellt fel y galawnt aur ei goler ‘gŵr cwrtais sy’n gwisgo coler aur’ (cerdd 1.40), ac yn ei farwnad i Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, nodir ei fod yn arfer gwisgo aerwy mawr o aur a main ‘coler fawr o aur a gemau’ (cerdd 24.34). Crybwyllir coler Wiliam mewn cerdd a ganwyd i’w fab, Syr Water Herbert, hefyd:

Arweddodd we o ruddaur 
Ac aerwy trwm a gartr aur; 
Arwain y wisg o’r un nod 
I’r neillglun, ŵr enillglod! 
Gwisgodd wisg o aur coch
a choler drom a gardas o aur;
gwisga’r wisg sy’n rhoi’r un bri
i’r naill goes, gŵr sy’n ennill clod!

(cerdd 27.19-22)


Ac yntau eisoes wedi cyfeirio at y ffaith fod Syr Water wedi ei urddo’n farchog (neu ei euraw, llinell 13), mynega Guto yn y llinellau hyn ei ddymuniad i'w weld yn dwyn y gardas fel y gwnaethai'i dad. Sefydlwyd Urdd y Gardas (‘the Order of the Garter’) gan y Brenin Edward III tua 1348, a disgwylid i’w haelodau wisgo gardas glas golau, ag arwyddair yr urdd mewn llythrennau aur, am y goes chwith o dan y pen-glin.[5]

Ym marwnad Gutun Owain i Guto, ceir cyfeiriad at Guto ei hun yn gwisgo coler ac, o bosibl, gardas, gan ddibynnu ar sut y dehonglir y gair gard:

Dwyn coler, gwychder y gard, 
A nod y Brenin Edward. 
gwisgo coler ac arwydd y Brenin Edward,
gwychder y gard.

(cerdd 126.19-20)


Mae’n debyg fod beirdd eraill wedi defnyddio gard fel ffurf amrywiol ar gartr ‘gardas’, a byddai’r dehongliad hwn yn rhoi’r aralleiriad ‘gwisgo coler y Brenin Edward, gwychder y gardas, a’i arwydd’.[6] Fodd bynnag, er y byddai’r Urdd yn mabwysiadu coler arbennig, efallai yn ystod teyrnasiad y Brenin Harri VII, nid yw’n debygol fod hyn wedi digwydd cyn tua 1500.[7] At hynny, mae bron yn gwbl amhosibl ystyried bod Guto wedi ei dderbyn yn aelod o Urdd y Gardas gan mai i farchogion neilltuol yn unig y rhoid yr anrhydedd hwnnw. Gall fod Guto wedi gwasanaethu’r Urdd mewn rhyw fodd, megis fel swyddog, ond ni cheir tystiolaeth i’r perwyl hwnnw.

Mae’n well, felly, ddehongli gard yn yr ystyr ‘gwarchodlu’ (Saesneg ‘guard’), fel a geir yn yr aralleiriad cyntaf uchod.[8] O ran coler a nod y Brenin Edward, nid yw’n eglur a wisgai Guto y rhain fel milwr neu a ydynt yn cynrychioli, efallai mewn ystyr ffigurol yn unig, y gydnabyddiaeth a dderbyniodd am gerddi a ganodd i Edward ei hun neu i’r Herbertiaid.

Bibliography

[1]: M. Keen, Chivalry (New Haven, 1984), 183, a S. Friar (ed.), A New Dictionary of Heraldry (London, 1987), 100.
[2]: Friar (ed.), A New Dictionary of Heraldry, 100.
[3]: P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 256-7 a 264-5.
[4]: O. Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002), 16.1-2 a 17.27-8.
[5]: Friar (ed.), A New Dictionary of Heraldry, 160.
[6]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002) s.v. gartr.
[7]: P.J. Begent, The Most Noble Order of the Garter 650 Years (London, 1999), 62, 161.
[8]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002) d.g. gard², giard.
<<<Seliau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration