databas cerddi guto'r glyn

Seliau


Defnyddir y gair ‘sêl’ ar gyfer y mowld a ddefnyddir i greu argraff mewn cwyr selio, ac ar gyfer yr argraff ei hun. Term arall a ddefnyddiodd Guto’r Glyn yw insael, gair benthyg o’r Saesneg Canol inseil, a ddynodai naill ai argraff neu fowld erbyn ei gyfnod ef, er ei bod yn ymddangos mai’r gyntaf oedd yr ystyr wreiddiol.[1] Gallai seliau ddangos motîff neu eiriau, neu’r ddau, ac roedd ganddynt swyddogaeth bwysig fel dull o brofi dilysrwydd dogfennau. Weithiau fe’u defnyddid i gau dogfennau, gan gadw’r cynnwys yn breifat nes bo’r sêl yn cael ei dorri, ond gallent hefyd gael eu gosod ar flaen dogfen neu wrth gordyn neu stribyn o femrwn ar y gwaelod.[2]

The reverse of the Great Seal of Owain Glyndŵr.
Great Seal of Owain Glyndŵr
Click for a larger image
Gwelir amrywiol fotiffau ar seliau canoloesol. Defnyddid llun o ryfelwr ar gefn ceffyl, a chleddyf yn ei law, gan dywysogion Cymreig yn y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg, gan efelychu seliau brenhinoedd ac arglwyddi o Loegr, a motiffau symlach yn ymwneud ag arfau, yn dangos cleddyf ar ei ben ei hun neu law yn dal gwaywffon, yn cael eu defnyddio gan uchelwyr is eu statws. [3] Roedd motiffau yn ymwneud â hela yn boblogaidd hefyd, megis bwa a saeth, corn hela a hydd, a defnyddid amryw fotiffau eraill gan gynnwys anifeiliaid, blodau, dail, ffigurau dynol a symbolau crefyddol.

Yn yr Oesoedd Canol diweddarach, daeth herodraeth yn bwysicach fel y prif ddull o fynegi statws uchel ar seliau.[4] Gellid cynnwys arfbeisiau a delweddaeth herodrol arall o fewn motîff ehangach, megis llun o marchogfilwr yn dal tarian herodol a’r un patrymau’n cael eu dangos ar orchudd ei geffyl. Ond daeth motiffau herodrol symlach, yn rhoi’r prif sylw i’r arfbais ei hun, yn fwyfwy cyffredin.

Gallai unrhyw fath o fotîff gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf.[5] Mae’n debyg fod Guto’r Glyn yn ymwybodol o hyn, am ei fod yn cyfeirio at sêl (insael) Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, wrth ganmol ei ddisgynyddiaeth o dywysogion Gwynedd a Deheubarth:

Mae prins Gwynedd yn d’insael, 
Arglwydd Rys eurgledd yw’r ail. 
Mae tywysog Gwynedd ar dy sêl,
yr Arglwydd Rhys euraid ei gleddyf yw’r ail.

(cerdd 78.39-40)


Dangosir arfbais gyda llew rampant o fewn bordor minfylchog ar darianau dwy gorffddelw o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yng nghadeirlan Tyddewi, y credir iddynt bortreadu’r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth (a fu farw yn 1197) a’i fab Rhys Gryg, a defnyddid sêl gyda’r un arfbais gan Richard Talbot, gor-ŵyr Rhys Gryg.[6] Yn ddiweddarach byddai’r Talbotiaid yn dal i ddefnyddio’r arfbais hon i ddangos eu disgynyddiaeth o dywysogion Deheubarth. (Roeddynt hefyd yn defnyddio ‘talbot’, sef math o gi, fel arwydd teuluol, gw. yr adran ar fathodynnau).

Nid oes angen dehongli cyfeiriadau barddol at seliau yn llythrennol bob tro, oherwydd gellid defnyddio seliau yn ffigurol fel symbolau o awdurdod neu ddilysrwydd. Er enghraifft, gelwir Syr Wiliam ap Tomas o Raglan yn brifai-sêl mewn un o gerddi Guto:

Prifai-sêl y parfis wyd, 
Perl mewn dadl parlmend ydwyd, 
Ystiwart dros y Deau, 
Iustus doeth, eiste sy dau. 
Ti yw sêl gyfrin trafodaeth,
perlen wyt ti mewn dadl seneddol,
stiward dros y Deau,
ustus doeth, eistedd yw dy ran.

(cerdd 19.15-18)


Yn aml roedd gan bobl bwerus nid yn unig ‘sêl fawr’ ond hefyd ‘sêl gyfrin’ neu brifai-sêl (‘privy seal’), y gellid ei defnyddio i greu ail argraff ar gefn arfgraff a grëid gan y sêl fawr.[7] Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg roedd sêl gyfrin brenin Lloegr bron mor bwysig â’r sêl fawr.[8] Gellid galw ei cheidwad, hefyd, yn brifai-sêl, felly mae’n bosibl dehongli’r llinellau uchod i olygu naill ai bod Syr Wiliam fel ‘sêl gyfrin’ ffigurol neu ei fod fel ceidwad y sêl gyfrin. Yn y naill achos neu’r llall, mae’n debyg mai’r ergyd yw bod gan Syr Wiliam lais awdurdorol mewn dadleuon cyfreithiol. Yn yr un modd, disgrifiodd Guto Siancyn Hafart o Aberhonddu fel prifai-sêl clod (cerdd 31.6) a chyfeiriodd at Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron fel prifai-sêl serch (cerdd 10.57). Yn y ddau achos cyflëir y syniad fod y noddwr yn arwydd o ddilysrwydd neu awdurdod.

Mewn cerdd sy’n canmol Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth, cyfeiria Guto at sêl a phatent:

Yr oedd batent o’i hendad 
Ym ar dir cyn marw ei dad. 
Ei dai ar ôl a’i dir ym, 
A’r sêl a roes i Wilym. 
Roedd breinlythyr o law ei daid i mi
yn rhoi hawl ar dir cyn marw ei dad.
Rhoddodd ei lys wedyn a’i dir i mi,
a’r sêl i Wilym.

(cerdd 62.3-6)


Roedd patent yn llythyr neu’n ddogfen agored a roddai fraint, hawl, swydd, eiddo neu deitl.[9] Dywed Guto fod taid Dafydd ap Gwilym wedi rhoi ei lys a’i dir iddo ef (hynny yw, Guto) drwy batent cyn marwolaeth Gwilym ac wedi rhoi sêl y patent i Wilym. Ni ddylid deall hyn yn llythrennol, ond yn hytrach fel dull o ddweud y câi Guto unrhyw beth a fynno oddi wrth ei noddwr hael.[10]

Ymhellach am seliau yn yr Oesoedd Canol, gw. Exploring Medieval Seals.

Bibliography

[1]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. insel, insail, a ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. inseil, n.
[2]: J. McEwan and E. New, with S.M. Johns and P.R. Schofield (eds.) Seals in Context: Medieval Wales and the Welsh Marches (Aberystwyth, 2012), 16.
[3]: McEwan and New (eds.), Seals in Context, 36, 40-3.
[4]: McEwan and New (eds.), Seals in Context, 70-2, 76, 81-3, 86.
[5]: McEwan and New (eds.), Seals in Context, 76-83.
[6]: M.P. Siddons, The Development of Welsh Heraldry, 4 vols (Aberystywth, 1991-2007), vol. I, 289.
[7]: Williams, Welsh History through Seals, 19.
[8]: S. Friar (ed.), A New Dictionary of Heraldry (London, 1987), 276.
[9]: Geiriadur Prifysgol Cymru, s.v. patent, petent¹, ac ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. patent, adj. I.¹(a) a n. I.¹(a).
[10]: J.Ll. Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Guto’r Glyn (Caerdydd, 1939), 332.
<<<Bathodynnau      >>>Coleri
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration