O fewn hwn, efô yw ’nhai, 
PyrsauRoedd cael pwrs yn crogi wrth wregys yn rhan hanfodol o wisg unrhyw fardd teithiol. Ceid tri math o bwrs yn yr Oesoedd Canol sef pwrs dolennog (‘girdle purse’); pwrs a ymdebygai i gwdyn (‘pouch purse’); a phwrs a chanddo ffrâm fetel (‘framed purse’). Cwdyn lledr wedi ei gau â llinyn oedd y math cynharaf a symlaf. Yn raddol, gwelwyd pyrsau fel hyn yn cael eu haddurno â defnyddiau cain, a phan ddaeth tecstiliau fel sidan a melfed yn rhwyddach ac yn rhatach i’w prynu, cynhyrchid cydau cyfan o frethyn o bob lliw a llun.[1]
Math arall oedd pwrs a oedd yn cynnwys fflap fel gorchudd i’w gau neu bwrs dolennog; roedd hwn yn hawdd iawn i’w ddiogelu wrth y gwregys gan fod modd cau’r fflap o amgylch y gwregys. Prif ddeunydd y pwrs hwn oedd lledr ac fe’i haddurnid â phwythau addurnedig. Ond roedd ei lunio’n gymhleth gan fod angen sawl darn o ledr ac roedd weithiau’n cynnwys mwy nag un boced. Datblygiad a gysylltir yn benodol â chanol y bymthegfed ganrif yw’r arfer o ddefnyddio metel i greu ffrâm ar gyfer y pwrs. Roedd rhan o’r ffrâm o’r golwg oddi mewn i’r pwrs gyda’r rhan a oedd yn cysylltu’r pwrs â’r gwregys, sef bâr a dolen fetel, yn amlwg i bawb ac felly’n cynnwys addurn cain megis arysgrif.[2] Fel unrhyw ddilledyn, roedd hi’n bosibl addurno pyrsau â phob math o frodwaith ac addurn. Yn y farddoniaeth, cyfeirir at byrsau sidan a melfed, ac ymddengys fod y deunyddiau cain hyn hefyd yn rhan o’r ddau bwrs a gafodd Guto’r Glyn, y naill gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad (cerdd 87) a’r llall gan Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor (cerdd 59).[3] Diolch am bwrs, cerdd 87. Er nad yw’n hawdd adnabod yn fanwl y math o bwrs a roes Catrin i Guto ceir digon o fanylion yng nghywydd Guto i geisio ail-greu’n fras yr hyn a ddisgrifir. Nodir fod y pwrs yn cael ei wisgo ar y gwregys (gw. llinellau 19 i’m gwasg, 49 ar y glun, 60 wrth wregys dyn a 62 wrth fysedd) ac mae’n debyg mai i’r dde o fwcl y gwregys y gwisgid pyrsau gan amlaf yn y cyfnod hwn.[4] Mae’r pwrs wedi ei wenud o ddefnyddiaud drudfawr (gw. llinellau 20, 45, 69, 46 a 58) a gwelir oddi wrth linellau 20, 24, 48, 53 a 59-60 mai aur oedd prif liw’r pwrs er bod rhywfaint o gochni’n perthyn iddo hefyd (mewn aur rhudd 9 a rhuddaur 23). Mae’n annhebygol mai pwrs dolennog a roes Catrin i Guto gan mai o ledr yn bennaf y gwneid pyrsau felly. Melfed oedd priod ddefnydd allanol pwrs Guto, ynghyd â darnau o sidan a damasg, ond sylwer y ceir gan Goubitz enghraifft o bwrs dolennog lledr ac arno luniau addurniadol o brysglwyn.[5] Mae’n debygol iawn fod addurnwaith tebyg o ddefnydd ar bwrs Guto (45 rhos aur, 61 eres o goed), o bosibl rhwng colofnau o edau aur (53 tyrau goldwir). Rhaid hefyd ystyried o ddifrif y posibilrwydd fod pwrs Guto’n debyg i byrsau dolennog o ran maint, oherwydd byddai gweadwaith mewnol rhai mathau o byrsau dolennog yn gorfodi’r perchennog i ddefnyddio ei ddwylo i’w hagor yn hytrach nac un llaw’n unig.[6] Er mai llaw Guto sydd yng ngheg y pwrs yn llinell 21, yn llinell 56 mae’r pwrs yn Llys i’m deufys a’m dwyfawd, sy’n awgrymu y gallai Guto roi ei fys a’i fawd ar bob llaw i mewn i’r pwrs. Er mai enghreifftiau prin yn unig o byrsau a ymdebygai i gwdyn sydd wedi goroesi, mae’n ddigon posibl y ceid ynddynt adrannau mewnol tebyg i’r rhai a ddisgrifir uchod.[7] Mae’n eglur fod gan bwrs Guto adrannau mewnol oddi wrth y modd y’i cymherir ag adeiladau aml-ystafell:
O fewn hwn, efô yw ’nhai, 
Y mae annedd fy mwnai, 
Tŷ’r gild a’r tyrau goldwir, 
Tair llofft o’r tu arall hir. 
Llyna dlws llawen i dlawd, 
Llys i’m deufys a’m dwyfawd, 
Cwrt mawr, ni ddwg grotiau mân, 
Croes adail, caerau sidan, 
O fewn hwn mae cartref fy arian,
efe yw fy nhai, tŷ’r eurad a’r tyrau o edau aur, tair llofft ar yr ochr arall hir. Dacw drysor llawen i ŵr tlawd, llys i’m dau fys a’m dwy fawd, cwrt mawr, nid yw’n cario grotiau mân, adeilad croes, caerau sidan,
Ni waeth sut math o bwrs a gafodd Guto o ran ei brif ran, ai un dolennog ynteu un tebycach i gwdyn, mae’n sicr y gwnïwyd ar ei flaen gwdyn arall llai:
Dau alwar dduw Nadolig: 
Melfed ym, molaf y daith, 
A damasg i’m cydymaith. 
cyfoeth i ni sy’n parhau:
un melfed i mi ac un damasg i’m cydymaith, molaf y daith. Er ei bod hi’n bosibl fod cydymaith yn gyfeiriad at gyfaill i Guto,[12], mae’r modd y personolid pyrsau gan feirdd cynharach yn awgrymu mai at y pwrs ei hun y cyfeirir mewn gwirionedd. Gellid disgwyl y byddai Guto (yn ogystal â’i gynulleidfa, efallai) yn gyfarwydd â chywydd Llywelyn ab y Moel i’w bwrs, lle clywir y bardd a’i bwrs yn ymddiddan yn ddichellgar â’i gilydd,[13] neu efallai y cywydd ansicr ei awduriaeth lle y beirniedir yr ariangarwch y mae’r pwrs yn symbol ohono.[14] Gwelir fod yr un math o bersonoli ar waith gan Guto yn llinellau 49 (Un faint ar y glun yw fo) a 51 (efô yw ’nhai). Bernir felly mai cydymaith Guto yn yr achos hwn yw’r pwrs ei hun a’r ddau rodd ( alwar) felly yw’r pwrs o felfed a’r cwdyn o ddamasg a gafodd Guto. Cyfeirir at y rhan ychwanegol honno o’r pwrs eto yn llinellau 59-60.[15] Creadigaeth o Abertanad oedd y pwrs arbennig hwn (cerdd 87, llinellau 9-10 a 63-4).[16] Yn hyn o beth mae’n werth dyfynnu sylw Goubitz ynghylch peryglon gor-gategoreiddio’r gwrthrychau hyn. Yn hytrach, dylid ystyried y pwrs yng nghyd-destun anghenion bardd o Gymro yn y gororau trefol ar ddiwedd y bymthegfed ganrif: ‘It is hard to avoid the impression that many of the items … were one-off products. Every category has its basic shapes, but in the execution the maker may have been guided by the customer’s requirements, cost and available material … Additions such as pouchlets may be seen as reflecting the customer’s personal preferences or requirements.’[17] Diolch am bwrs, cerdd 58. Roedd y pwrs arall a gafodd Guto’n rhodd gan Risiart Cyffin, deon Bangor, yn debyg iawn, yn ei hanfod, i’r pwrs a gafodd gan [personlink:nc01:Gatrin ferch Maredudd], er na cheir cymaint o wybodaeth fanwl yn y cywydd a ganodd i ddiolch amdano (cerdd 58). Fe’i gwisgid ar y gwasg (cerdd 58 llinellau 42 ar glun, 56 uwchlaw clun a chledd), fe’i gwnaethpwyd o bali (39), brethyn (40) a sidan (53 a 57) ac roedd o liw aur (40, 45 a 60) a choch yn bennaf (47 gwridog, 50 a 59 rhudd a 54 sinobl), ynghyd â rhywfaint o liw porffor (41). Mae’n bosibl mai sidan oedd prif ddefnydd y pwrs, ac mae’n eglur mai o’r defnydd hwnnw y gwnaethpwyd yr addurnwaith arno, sef lluniau o goed neu brysglwyn cochlyd (50 gwaed rhudd yn goed trwyddaw, 54 sinobl dros ei wyneb, 57 coed sidan). Yn wahanol i’r cywydd a ganodd Guto i ddiolch am bwrs gan Gatrin, ni cheir unrhyw awgrym yma fod gan y pwrs gydau allanol nac adrannau mewnol, a sylwer nad yr un yw ergyd y ddwyrodd a enwir yma â’r ddau alwar a enwir yn y cywydd i Gatrin (gw. cerdd 87.44). Gwneir yn eglur yn y cywydd hwn mai’r pwrs a’r arian a roir gydag ef gan Risiart yw’r ddwyrodd, ond y pwrs ei hun a’r cwdyn llai a wnïwyd arno yw’r ddau alwar yn y cywydd i Gatrin (gw. Diolch am bwrs, cerdd 87). Bibliography[1]: S. Farmer, ‘Biffes, Tiretaines, and Aumonières: the Role of Paris in the International Textile Markets of the Thirteenth and Fourteenth Centuries’, Medieval Clothing and Textiles, ed. G. Owen-Crocker (Boydell and Brewer, 2006), 88.[2]: D.A. Hinton, Gold and Gilt, Pots and Pins (Oxford, 2005), 253 a G. Egan & F. Pritchard, Dress Accessories c.1150-c.1450 (London, 1991), 356-7. [3]: Canwyd hefyd gerddi i byrsau lle cwynai’r beirdd fod eu pyrsau’n wag; am drafodaeth ar y genre gw. R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd `Sypyn Cyfeiliog’ a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998), 150. [4]: G. Egan & F. Pritchard, Dress Accessories 1150-1450 (Woodbridge, 2004), 342. [5]: O. Goubitz, Purses in Pieces (Waanders, 2007), 31, ffig. 35, hefyd ffig. 156-60. [6]: Goubitz, Purses in Pieces, 26. [7]: Goubitz, Purses in Pieces, 41. [8]: Goubitz, Purses in Pieces, 47-59 a P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 248. [9]: Goubitz, Purses in Pieces, 56, ffig. 91. [10]: Goubitz, Purses in Pieces, 59, ffig. 99; a hefyd ffig. 117. [11]: Goubitz, Purses in Pieces, 47, ffig. 68; 48, ffig. 71; 59, ffig. 99. [12]: B.O. Huws, Detholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch (Caernarfon, 1998), 117. [13]: R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd `Sypyn Cyfeiliog’ a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998), cerdd rhif 11. [14]: P. Bryant-Quinn, Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001), Atodiad i.1-4. [15]: Am enghreifftiau o byrsau tebyg gw. Goubitz, Purses in Pieces, 28-30, ffig. 31-4. [16]: Gw. hefyd M. Haycock, ‘ “Defnydd hyd Ddydd Brawd”: rhai agweddau ar y ferch ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, G.H. Jenkins (gol.), Cymru a’r Cymry 2000 (Aberystwyth, 2001), 41-70. [17]: Goubitz, Purses in Pieces, 115. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru